Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn cydweithio i drawsnewid gwasanaethau i oedolion a phlant ag anghenion gofal a chymorth a’u gofalwyr di-dâl, yn unol â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Iachach.
Mae’r bwrdd a’i bartneriaid yn helpu i yrru datblygiad gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol arloesol ac integredig yn ei flaen, drwy hybu cydweithio ac integreiddio ar lefel ranbarthol, gan sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio ar y cyd â’r bobl sy’n eu defnyddio a’u galluogi i gyflawni’r canlyniadau sydd o bwys iddyn nhw.
Pwy all ymaelodi â'r BPRhGC?
Ydych chi'n byw yng Ngheredigion, Sir Benfro, neu Sir Gaerfyrddin? Rydym yn chwilio am y canlynol: Pobl sy'n defnyddio iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru (Defnyddwyr Gwasanaeth) Gofalwyr Pobl sy'n byw gyda dementia Sefydliadau'r Trydydd Sector
Beth yw'r llinell amser o ran recriwtio?
- Mawrth, 2024 - ar agor ar gyfer recriwtio.
- Cysylltwch â ni
- Mai 2024, Byddwn yn cynnal diwrnod croeso i’r cynrychiolwyr dinasyddion newydd.
Beth allwn ei gynnig i chi?
- Treuliau parod
- Mentora, cymorth un-i-un a hyfforddiant i gymryd rhan yn y BPRhGC.
- Profiad o weithio gyda chyfarwyddwyr ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol.
Beth fyddech chi'n ei wneud fel aelod?
Rhannu eich profiadau a'ch syniadau. Helpu i lunio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol. Adolygu a darparu adborth ar wasanaethau. Cynghori ar gomisiynu gwasanaethau newydd. Cynyddu ymwybyddiaeth
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i West wales – West Wales Regional Partnership Board (wwrpb.org.uk)